|
| • |
Grantiau:
mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau i elusennau sy’n
ymwneud â phum maes: tai fforddiadwy, gofal yr henoed, helpu
pobl ifanc, gwarchod hen adeiladau, a chefnogi mannau gwyrdd a pharciau
cyhoeddus. |
| • |
Darperir
cefnogaeth ymarferol hefyd i elusennau trwy gynnig
cyngor a chwarae rhan weithredol yng ngweithgareddau’r elusennau. |
| • |
Profiad
yr Ymddiriedolwyr: bu Simon Baynes ar un adeg yn
Rheolwr Gyfarwyddwr JPMorgan Cazenove, sef banc buddsoddi blaenllaw
yn y DU. Pensaer a dylunydd yw Maggie Baynes. Athrawes yw Sue Hall,
â phrofiad penodol mewn Anghenion Addysgol Arbennig. |
| • |
Sefydlu
elusennau: mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymwneud
â sefydlu tair elusen newydd |
| • |
Codi
arian: mae gan yr Ymddiriedolaeth brofiad sylweddol
yn y maes hwn, ac mae’n trefnu digwyddiad codi arian bob blwyddyn
ym mis Mehefin yn Neuadd Bodfach, Sir Drefaldwyn |
| CYSYLLTU Â NI >> |
     |