Gerddi Neuadd Bodfach - 2010

Bodfach Gardens Wel, am flwyddyn. Rwy'n siŵr nad ni yw'r unig rai i golli perlau gwerthfawr yn y gaeaf mwyaf garw ers canol yr wythdegau. Dinistriwyd ein palmwydd toreithiog ar Deras y De; daeth y lili gynnar yn grebachlyd a soeglyd, er ei bod fel rheol yn wydn yma cyn belled â'i bod yn cael digonedd o domwellt; ac, oherwydd y tymereddau iasoer parhaus, difaddau newidiodd lliw'r coed llawrwydd yn frown.

Er ei bod yn drist colli hen ffrindiau, a rhai newydd, mae'n gwneud ichi edmygu mwy fyth cadernid a phenderfynoldeb y planhigion hynny sydd wedi goroesi i fyw; y cyffro wrth inni ddal ein gwynt, yn aros bob dydd am arwyddion o fywyd yn torri trwy'r ddaear gras, o'r eirlysiau cyntaf i sbigau pinc blagur rhosyn-y-mynydd, a gollwng ochenaid wrth i bob un ddod yn ddiogel yng nghynhesrwydd y gwanwyn. Ond beth wedyn? Pwl sydyn o oerni, a phopeth yn dod i stop am y tro neu, yn greulon ddigon, yn marw yn eu hegin, a dyna ein holl ansicrwydd yn dychwelyd.

Dyna yw risg a phleser bod yn arddwr - cymaint o boen ag sydd o gyffro ond, yn y pen draw, gwefr o weld toreth hael, er anrhagweladwy, natur. Rydyn ni wedi gorfod dysgu sawl gwers hefyd. Y llynedd gwnaethon ni fwrw ymlaen â phlannu mwy o ellesg yn y gwelyau gellesg, â chaleidosgop o flodau lliwgar i roi ffocws i'r fframwaith o ellesg 'Jane Phillips' o'u hamgylch. Mewn ymdrech i adfywio a gwella'r draenio ym mhridd clai trwm y gwely presennol, palwyd llawer iawn o gompost a sglodion rhisgl wedi compostio i mewn iddo yr haf diwethaf cyn plannu 120 o ellesg hynod iach.

Methodd pob un ohonyn nhw. Gwnes i ddadwreiddio pob un, adfywio'r pridd â chompost cyfoethocach, a'u hailblannu. Dim lwc. Roeddwn i'n meddwl bod angen i mi roi mwy o ddŵr iddyn nhw. A dyna y gwnes i. Methu eto - dim ond gwreiddgyffion wedi crychu a phydru oedd ar ôl. A minnau wedi treulio cymaint o amser, gobaith ac ymroddiad. Beth oedd yn mynd o chwith? Cefais atebion ar unwaith mewn cyfarfod diweddar a serendipaidd ag arbenigwr gellesg yn Sioe Flodau Chelsea eleni: roeddwn i'n bod yn or-garedig iddyn nhw. Trwy ychwanegu sglodion rhisgl a llawer iawn o gompost, roeddwn i'n creu'r amodau perffaith i'r gwreiddiau bydru - bydden ni wedi bod yn well ein byd pe baen ni wedi palu'r clai yn unig a'u taro i mewn. Mae'n ddigon i'ch gwylltio. Dyna rydw i bob amser wedi'i wneud mewn gerddi o'r blaen (yn brin o amser, heb ddigonedd o gompost ar gael) a'u gweld yn ffynnu, o'r naill flwyddyn i'r nesaf, â fawr ddim ôl-ofal (eu hesgeuluso efallai yn ôl rhai pobl). Beth oedd fy ngwers? Buaswn i'n dweud - pam newid rhywbeth rydych chi'n gwybod sy'n gweithio? Wrth gwrs, mae gan bob un ohonon ni obsesiwn â pharatoi pridd, ond weithiau gallwch chi fynd dros ben llestri.

Yr ymyl arian i'r cwmwl du hwn yw y gallwn ni wrthdroi'r broses bydru trwy ychwanegu graean o amgylch pob gellesgen sy'n methu, felly os byddwch chi'n dod yma'r flwyddyn nesaf rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gallu gweld beth roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi'n ei weld eleni - môr o liwiau, yn siglo uwchben y dail prydferth hynny ar ffurf cleddyf. Ond o leiaf mae'r 'Jane Phillips' wedi goroesi - mae'n bosib y bydd rhai ohonyn nhw yn eu blodau i ollwng eu harogl melys erbyn y byddwch chi'n darllen hwn.

Os nad oedd gaeaf garw a gorweithio'r isbridd yn ddigon i ddal popeth yn ôl, y broblem olaf a mwyaf creulon oll yw chwant bwyd anferthol cwningod a gwiwerod Bodfach. Prin iawn yw'r pethau sy'n fwy torcalonnus na gweld hoff blanhigyn yn ymdopi â threialon y gaeaf dim ond i weld bod ein gelynion blewog wedi ei fwyta ag yntau ar ei dwf. Rwyf wedi llunio rhestr (fer yn anffodus) o blanhigion y maen nhw wedi'u gadael yn llonydd hyd yma: lilïau undydd, mantell-Fair y gerddi, bysedd y cŵn, lafant aeddfed (yn cadw planhigion ifanc allan o gyrraedd), dahlias, rhosod-y-mynydd, carpiog y gors, crib-y-ceiliog, roced melys, clychau'r clawdd, bambŵ, pob rhywogaeth rhedyn. Yn anffodus ddigon, mae'r chwyn arswydus hwnnw sy'n edrych fel clust eliffant a llysiau'r gymalwst hefyd yn eitemau ar y rhestr hon. Ond hebddyn nhw, ni fuasai gennym ni unrhyw beth i gwyno amdano heblaw am y tywydd! Eleni, fodd bynnag, mae'r tywydd wedi cadw'r llwyni rhododendron yn ôl a fydd, gobeithio, yn golygu y byddan nhw ar eu gorau i chi heddiw.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'n tîm garddwyr gwych - Phil, Geoff, Alec, Eleri a Skip; hebddyn nhw, buasai'r gornel fach hon o Gymru ychydig yn llai elysaidd.

Maggie Baynes (Mai 2010)