Gerddi Neuadd Bodfach - 2012

Bodfach Gardens G an mai blwyddyn Jiwbilî y Frenhines yw hon, roedd yn gwbl addas dathlu hynny drwy ganolbwyntio ar gornel o’r ardd yr oedd angen cryn waith arni i’w gwella. Felly ’dyn ni wedi creu ein Gardd Jiwbilî ein hunain yn yr ardal furiog ger y tŷ. Ar y dechrau, y bwriad oedd creu gardd lysiau ond, fel pob bwriad da, mae hyn wedi newid a bellach mae’n amddiffynfa lle ceir perlau blodeuog prydferth y tu hwnt i gyrraedd y cwningod. Bu’n rhaid i mi ddefnyddio gwifren cwt ieir â thyllau llai gan fod y cwningod llai yn gallu mynd trwy dwll sydd fawr mwy na maint gwniadur. Nid bod hyn yn obsesiwn o gwbl!

Mae’r planhigion clychlys, lafant, mapgoll, artemisia, pabi (Cymreig a Himalaiadd) a dahlia bendigedig hynny i gyd (y buaswn i’n aml wedi’u gweld o’r blaen wedi’u cnoi i’r gwaelod fel nad oedd prin ddim ar ôl) nawr yn ffynnu yn yr amddiffynfa, sef caer wedi’i chodi o frics a gwifren cwt ieir. Mae yna hyd yn oed olygfan lle gallwch chi eistedd dan do a mwynhau’r olygfa â bryniau â defaid ar eu llethrau yn y cefndir – os oes gennych chi amser, wrth gwrs. Ond un peth annisgwyl yw’r amser ychwanegol y mae’n rhaid i mi ei dreulio’n cadw chwyn draw mewn gardd ffrwythlon. Yn wahanol i forder blodau, yr argymhelliad yw bod y pridd yn foel o amgylch y cnydau. Felly, gan fod garddio llysiau’n rhywbeth newydd sbon i mi, dyma ychwanegu at restr o broblemau a oedd eisoes yn ddi-ben-draw. Ond beth yw’r ots?

Mae wedi bod yn hwyl fawr hyd yn hyn, a dwi'n siŵr y bydd fy nhatws newydd cynnar (yr unig bethau i’w bwyta – heblaw am y perlysiau – sy’n tyfu yma) yn hynod flasus! Gan fod y tymheredd yn yr ardd newydd 2 radd o leiaf yn uwch nag yn unrhyw le arall, mi fydda’ i’n ceisio tyfu ambell i blanhigyn dringo tyner sydd dim ond yn bosibl yn y De neu’r Dwyrain, er enghraifft Trachelospermum jasminoides, â’r gobaith y bydd y peraroglau’n dwyn atgofion o India o bryd i’w gilydd. Y flwyddyn nesaf, efallai y bydda’ i’n rhoi cynnig ar dyfu mwy o gnydau i’w bwyta. Un cam ar y tro.

’Dyn ni wedi hen arfer â thywydd anrhagweladwy ond un peth y gallwn ni ei ragweld yn bendant yw y bydd yn anrhagweladwy, felly mi arhosais yn amyneddgar tan ganol mis Mai cyn plannu unrhyw beth a allai fod yn dyner o gwbl. Ond mae yna bob amser bethau sy’n dioddef ar ôl cyrraedd pen arall y tymor cynnes; yn anffodus, dwi bob amser yn anobeithiol o optimistaidd ynglŷn â pha mor hir y bydd yr haf yn para pan ddaw’n fater o ragweld pryd daw’r rhew, a llynedd mi gollais botyn prydferth o Echeveria roeddwn i wedi’i fagu o sbesimen bychan a oedd wedi’i brynu yng Nghernyw, a drigodd ar ôl dal ei afael ar fywyd am wythnos yn ystod boreau iasoer diwedd yr hydref. Eleni, dwi’n gobeithio fy mod i wedi dysgu fy ngwers ac y bydda’ i’n dod â nhw i gyd dan do mewn da bryd. I mi, arwydd yw hyn fy mod i wedi derbyn bod yr haf wedi dod i ben, felly dwi’n ceisio ymladd yn ei erbyn, er na ddylwn i. Wrth gwrs, yr esgus arall yw ei bod hi bob amser yn anodd dod o hyd i le i'r ffoaduriaid hynny i gyd dreulio’r gaeaf...

Mae lle newydd arall wedi’i greu trwy gyflwyno Cwt Bugail mewn rhan o’r ardd sydd eisoes â phlanhigion bambŵ, masam a llwyni rhododendron aeddfed. Mae hyn, ynddo’i hun, wedi trawsnewid awyrgylch y lle fel ei fod yn teimlo fel glyn hudol, cyfrinachol, a'r gobaith yw y bydd hwn, erbyn y flwyddyn nesaf, yn cynnwys mwy o blanhigion bwthyn ger llwybr nad oedden ni’n gwybod amdano o’r blaen, a ddaeth i’r golwg yr wythnos ddiweddaf o dan lwyni rhododendron a oedd wedi cwympo.

Pleser o’r mwyaf i ni yw ein bod ni’n ffodus unwaith eto eleni i groesawu cerddorion ifanc Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Ieuenctid Gogledd Powys sydd wedi bod yn chwarae i gynulleidfaoedd llawen yn ein Gardd Agored ers 5 mlynedd nawr. Heb eu hymroddiad a’u hysbryd nhw, ni fyddai’r diwrnod yn teimlo’n gyflawn. ’Dyn ni hefyd yn ddyledus i’n tîm cartref, sef Wendy, Alan, Mike a Geoff sy’n ateb yr her bob blwyddyn ac yn gwneud popeth ’dyn ni’n gofyn iddyn nhw ei wneud, waeth pa mor sylweddol.

Yn olaf, diolch o galon i bob un ohonoch chi am ddod – yn enwedig ar y Diwrnod Jiwbilî yma pan mae yna lond gwlad o bethau mewn lleoedd eraill i'ch denu. Mae’n wych gwybod y gallwn ni, gyda’n gilydd, helpu i ariannu ein helusennau lleol a chadw ysbryd Llanfyllin yn fyw, trwy ychydig o chwynnu a thorri glaswellt (heb sôn am sgiliau pobi cacenni a gwneud te Claire Ellis). Eleni, ’dyn ni’n cefnogi apêl Festri Capel y Tabernacl yn Llanfyllin, Clwb Bowlio Llangynog, y Ganolfan Gymunedol yn Hirnant a changen Penrhyndeudraeth Hosbis Gwynedd yn y Cartref.

Maggie Baynes (Mai 2012)