Gerddi Neuadd Bodfach - 2016

Bodfach Gardens M ae yna ddwy flynedd arall wedi gwibio heibio ers i ni agor gerddi Bodfach ddiwethaf. Rydyn ni wedi bod yn brysur; roedd eira trwm y blynyddoedd diweddar wedi diffeithio’r llwyni rhododendron, gan eu gwasgu dan ei bwysau didostur. Felly heddiw fe welwch chi ardd sy’n dechrau ailffynnu. Ond ffynnu y mae hi unwaith eto, a gallwn ni ond rhyfeddu at benderfynoldeb natur i gael ei gwynt ati a bwrw ymlaen â bywyd.

Bydd y rheiny ohonoch chi sydd eisoes yn gyfarwydd â’r gerddi’n sylwi ar ardd ffurfiol newydd rhwng y tŷ a’r Cerbyty, wedi’i dylunio gan Simon. Defnyddiwyd planhigion a oedd wedi methu â ffynnu o dan teras y Cerbyty, ac mae’r rhain nawr yn bywiogi mewn compost gardd ffres ac yn dod ymlaen yn dda â’u ffrindiau newydd. Mae rhywfaint o hen ffensys y parcdir yn cadw’r cwningod draw (hwrê!) ond rydyn ni’n dal i bendroni dros ateb i’r ffesantod bythol ddinistriol sydd wrth eu boddau’n torri’r blodau i ffwrdd oddi ar fylbiau’r gwanwyn heb unrhyw reswm amlwg. O leiaf maen nhw wedi gadael yr astrantia a mynawyd y bugail i dyfu mewn heddwch.

Does dim o hyn yn torri tir newydd – nid Chelsea mo’r fan yma; rydyn ni wedi dewis y cyfarwydd yn hytrach na’r arloesol, a chysur border blodau traddodiadol yn hytrach na’r duedd ffasiynol sydd ohoni; mae’n well gennon ni greu cilfach glyd i fyfyrio ynglŷn â golygfa yn hytrach na bodloni rhyw ddefodau garddwriaethol. I ni, mae’n ddigon gadael i’r ardd, yn ei chymhlethdod, gyfleu ei hun – y cyfan rydyn ni’n ei wneud yw symud â’r llif a gofalu amdani hyd eithaf ein gallu yn yr amser sydd ar gael i ni.

Mae ein gwanwyn hwyr, er nad oedd croeso i’w nosweithiau oerllyd a’i ddyddiau cymylog, wedi golygu’r canlyniad gorau posibl ar gyfer heddiw; rydyn ni wedi bod yn croesi ein bysedd y byddai’r wisteria ar Deras y De yn aros yn ei flodau ar eich cyfer, gan anfon ei beraroglau, sy’n debyg i oglau’r bysen bêr, ar yr awel trwy’r ardd. Roedd mwyafrif y llwyni rhododendron yn cysgu tan yr wythnos ddiwethaf, pan iddyn nhw benderfynu ei bod hi’n bryd dihuno. Mae’n eithaf posibl mai dyma’r sioe flodau orau rydyn ni wedi’i chael yn ystod Gŵyl Banc diwedd mis Mai. Gyda llaw, soniwyd yn newyddion sioe Chelsea mai 2016 yw canmlwyddiant y Gymdeithas Rhododendron, a sefydlwyd yng Ngerddi’r Ysbyty Brenhinol, ac mae’n rhyfeddol sut i helwyr planhigion yn oes Fictoria fynd ati’n ddewr i chwilota yn y Dwyrain Pell, yn aml ar dir perygl, am y sbesimenau gorau i ddod â nhw adref i’w canlyn.

Y rhosod yw’r pethau pennaf sy’n absennol. Mae hi wedi bod yn rhy oer iddyn nhw.

Mae yna ddwy elusen y byddwch chi’n ein helpu ni i godi arian ar eu cyfer; yn gyntaf Dolen Ffermio, sef elusen leol a sefydlwyd ym 1992 yn Llanfyllin, yn bennaf i helpu gwella da byw ac offer i bentrefwyr ym mhentrefi anghysbell Dwyrain Wganda er mwyn iddyn nhw gadw eu hannibyniaeth.

Cangen Sir Drefaldwyn o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yw’r ail elusen. Nod yr Ymddiriedolaeth yw achub a chadw gerddi hanesyddol neu safleoedd sydd mewn risg yng Nghymru, yn amrywio o’r ardd fwthyn leiaf, i barciau trefol, i stadau.

Rydyn ni wedi bod yn hynod ffodus o gael cefnogaeth ein tîm wrth baratoi Bodfach ar gyfer heddiw; diolch o galon i Alan C, Mark, Geoff, Diana, Alan V, Barbara, Ruth, Dana a Daniel. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gael cerddoriaeth fyw gan gerddorion Maldwyn Strings, sy’n rhoi o’u hamser i’n diddanu. Mae caredigrwydd pobl fel hyn sydd, o gyfuno’u hymdrechion, yn gwneud gwahaniaeth mor fawr i’r rheiny mewn angen, yn codi’r galon.

Ac, yn olaf, diolch i chi, am ddod i’n cefnogi. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r gerddi, y gerddoriaeth a thamaid o gacen, a gobeithio y bydd y tywydd yn garedig i ni am y diwrnod cyfan!

Maggie Baynes (Mehefin 2016)