Gerddi Neuadd Bodfach - 2018

Bodfach Gardens D aeth cwestiwn i’m meddwl y diwrnod o’r blaen wrth i mi dynnu’r milfed chwynnyn wrth baratoi ar gyfer heddiw – pam ein bod ni’n garddio? A pham fod gennon ni erddi yn y lle cyntaf os ydyn ni’n gwybod faint o waith y maen nhw’n mynd i’w olygu i ni i’w cadw nhw mewn trefn? Am a wn i, byddai’r un ateb yn berthnasol i sawl cwestiwn, fel ‘pam cael plant?’ Yn bennaf oherwydd y dymuniad i adael rhywbeth ohonon ni’n hunain ar ôl, i gael rhywbeth hardd i’w garu, i’w feithrin ac i fod yn falch ohono...

Wel, mae’n debyg mai dyna pam ein bod ni’n garddio! Pan rydyn ni’n cymryd seibiant i edrych ar y cyfan, mae gerddi’n rhoi cymaint o bleser, hyd yn oed os nad oes gennon ni byth amser i eistedd lawr gyda gwydryn o rywbeth neis. Mae yna rywbeth sy’n eich gwirioneddol fodloni, bron yn feddwol, o wybod mai chi eich hun wnaeth hyn ac y bydd o bosibl yn para’n hirach na’ch oes chi’ch hun. Wrth gwrs, rydyn ni’n cael help – does yna ’run ffordd y gallen ni lwyddo i wneud hyn ar ein pennau ein hunain ond mae jyst gwybod ein bod ni a’r tîm yn helpu i greu hyn (o leiaf yn rhannol) a’i gadw i fynd blwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cynhesu’r galon.

Ac yna rydych chi, bobl garedig Llanfyllin a thu hwnt, sy’n ein helpu ni am ddiwrnod bob 2 flynedd i godi arian ar gyfer achosion pell ac agos. Yn ystod ein deuddegfed blwyddyn yn Neuadd Bodfach, rydyn ni wedi gweld nifer yr ymwelwyr â’r ardd yn tyfu’n gyson. Gobeithio y byddwch chi’n hoffi’r hyn a welwch chi heddiw a gobeithio ein bod ni wedi helpu i’w wneud yn brofiad pleserus. Os felly, fe fydd wedi bod yn werth yr ymdrech.

Mi welwch chi ardaloedd o lwyni rhododendron wedi’u difrodi gan goed yn disgyn: mae’n anochel bod treigl amser yn mynd i adael ei farc dramatig ar le gyda choed mor hynafol. A chymaint ohonyn nhw. Ond rydyn ni’n ddiolchgar iawn nad ydyn nhw (hyd yma) wedi cyffwrdd â’r tŷ ac rydyn ni’n croesi ein bysedd bob tro y mae yna wynt mawr. Ond mae’r rhodo’n hen fwystfil gwydn ac, yn siŵr i chi, bob gwanwyn mae’r blagur yn ymddangos o’r canghennau mwyaf gwantan fel pe bai’n dweud – peidiwch â throi cefn arna’ i jyst eto!

Trwy lwc, mae’r arddangosfa o flodau rhododendron yng ngerddi Bodfach yn hwyr eleni. Wrth i mi ysgrifennu, dydyn nhw heb gyrraedd eu hysblander llawn ac felly, gobeithio, erbyn y byddwch chi’n darllen hwn, ni fyddan nhw allan yn eu holl ogoniant. Y llynedd, roedden nhw’n gynnar, felly rydyn ni wedi bod yn lwcus.

I barhau ar nodyn gwledd/newyn, fe gawson ni ryw dair eirinen o’n perllan y llynedd. Dydw i ddim yn hollol siŵr pam, ond y gwanwyn hwn rydyn ni wedi dod â gwenyn oddi wrth Rachel Hills a Pete Elvis o MBKA yn y gobaith y byddan nhw’n helpu â pheilliad y coed ffrwythau. Mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn y newyddion ers peth amser: mi ddylen ni i gyd gymryd sylw a phlannu mwy o rywogaethau gwenyn-gyfeillgar yn ein gerddi. O leiaf 50%, os fedrwn ni.

Yr haf diwethaf, mi gollon ni wisteria sinensis anferthol a oedd wedi hen sefydlu ar deras y De; roedd hi fel pe bai wedi cael digon a thorrodd ei hun yn rhydd wrth ei bôn. Er gwaethaf hyn, roedd ganddi ddigon o synnwyr i adael rhan fach hollbwysig ar ôl i ni ac rydyn ni nawr yn gofalu’n dyner amdani ac yn ei hyfforddi i ddringo yn erbyn y golofn wen rydlyd unwaith eto i’r feranda uchaf. Mae eisoes wedi carlamu bron â bod i’r top mewn blwyddyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at genhedlaeth gyfan newydd o flodau piws gogoneddus mor fuan â’r adeg yma’r flwyddyn nesaf. O’r hyn rydw i wedi’i weld mewn gerddi eraill, mae hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o dda i’r wisteria.

Ond nid colledion yn unig sy’n cael sylw.

Rydyn ni wedi creu taith gerdded gylchol trwy’r goedlan (gwelwch frig y map drosodd) a dylai hon ychwanegu at amrywiaeth gyffredinol y gerddi. Mae teimlad hynafol ymysg yr hen goed ac rydyn ni’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau mynd yno am dro. Dydy’r lefelau ddim yn rhy heriol felly, gyda chysgod ardderchog rhag cawod bosibl, dylai’r coed ddarparu gwrthbwynt llawn awyrgylch i weddill eich diwrnod.

Wrth gerdded o gwmpas, mae’n bosibl y byddwch chi hefyd yn sylwi ar ffynnon a ddarganfuwyd o’r newydd gerllaw’r llwybr rhododendron. Wrth glirio rhan o’r goedlan ger un o’r ffrydiau dan ddaear niferus, daeth Alan Cockram, ein rheolwr ystâd, ar draws coron o garreg wedi’i hanner gladdu yn y ddaear. Mi welwch chi arwydd ar y llwybr sy’n arwain ati – mae’n eithaf di-nod ar yr wyneb ond mae’n ddwfn iawn. Roedden ni’n llawn cyffro o feddwl nad oedd unrhyw un wedi dod ar ei thraws ers blynyddoedd lawer ac, ar hyn o bryd, rydyn ni’n ceisio dyfalu pam iddi gael ei hadeiladu yno yn hytrach nag yn nes at y tŷ. Mae’n wych i’n hatgoffa o’r mynd a dod sydd wedi digwydd yn y man hynafol hwn am ganrifoedd.

Gyda diolch twymgalon Simon a minnau i’r Tîm Cartref: Alan Cockram, Alan a Kim Venables, Diana, Daniel a Deina Locmele am eu help a’u cefnogaeth amhrisiadwy. Ac i chithau, wrth gwrs, am ddod. Yn enwedig ar ddiwedd mis Mai mor anwadal, â’i dywydd anodd i’w ragweld.

Maggie Baynes (Mai 2018)