Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo Cliciwch i'w chwyddo

GARDD AGORED BODFACH YN CODI £2,512 AR GYFER ELUSENNAU LLEOL

From left to right, Cllr Barry Thomas, Simon and Maggie Baynes and Russell George AM at the Garden Open.

Cllr Barry Thomas, Simon Baynes, Maggie Baynes, Russell George AM.

Agorwyd gardd Neuadd Bodfach, Llanfyllin ddydd Llun 30ain Mai a chodwyd £2,512 ar gyfer elusennau lleol, a oedd yn ganlyniad gwych.

Codwyd £1,812 o werthu prydau te ac o'r ffioedd mynediad, a gwnaed rhodd o hwn i Ysgol Pennant, Côr Meibion Penybontfawr, Wyrcws Llanfyllin ac Apêl Neuadd Goffa Llangynog.

Gwnaeth stondinau elusennau eu hunain £700 pellach ar gyfer eu hachosion eu hunain yn y digwyddiad, sef: NSPCC Llanfyllin, Clwb Bowlio Llangynog, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Wyrcws Llanfyllin, Neuadd Goffa Llangynog, Bookfest Amwythig a Thŷ Gobaith.

Ymhlith yr atyniadau oedd y casgliad syfrdanol o lwyni rhododendron yn eu blodau, cerddoriaeth gan Gôr Meibion Penybontfawr a phobl ifanc o Gerddoriaeth Ieuenctid Gogledd Powys, castell sboncio a thrampolîn ar gyfer y plant, stondin planhigion a stondinau eraill, arddangosfa ffotograffau gan Geoff Wilkinson, Ffair Lyfrau Bodfach a phrydau te cartref blasus.

Meddai Simon a Maggie Baynes:

"Roedden ni'n poeni braidd yn y bore gan fod y tywydd yn ofnadwy â glaw trwm. Ond yna fe wellodd pethau am 1.30pm, hanner awr cyn agor yr ardd. Erbyn canol y prynhawn, roedd yr awyr yn las a daeth mwy na 400 o bobl i'r digwyddiad.

Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r Cynghorydd Barry Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Powys, a'n Haelod Cynulliad newydd Russell George am agor y digwyddiad.

Diolch yn fawr i bawb a helpodd, yn enwedig tîm cartref Bodfach – Wendy, Clare, Alan, Mike, Geoff a Mike Mawr - a Chyfeillion Ysgol Penybontfawr. Rydyn ni wrth ein bodd â'r cyfanswm o £2,512 a godwyd ar gyfer elusennau lleol."