| Y
broses ceisio am grant
Bydd gofyn i elusennau sydd am dderbyn grant wneud cais i Ymddiriedolwyr
yr Ymddiriedolaeth trwy Simon Baynes, Neuadd Bodfach, Llanfyllin,
Powys, SY22 5HS, Cymru, ffôn: 07880 786573 neu’r Gweinyddwr,
Sally Dyson, 20 Kent House, Aylesford Street, London SW1V 3QB
ffôn: 020 7976 5785 neu trust@bodfach.com.
Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu manylion ynghylch amcanion eu
helusen, ei sefyllfa ariannol (gyda chyfrifon i gefnogi), pa sector
o’r gymuned sy’n cael budd ohoni, y swm mae’n
ceisio amdano, a’r gweithgareddau arfaethedig neu gyfleusterau
cysylltiedig y mae’n bwriadu eu darparu.
Bydd yr Ymddiriedolwyr yn asesu unrhyw gais i sicrhau y byddai
unrhyw grant yn cydymffurfio ag amcanion yr Ymddiriedolaeth, i
gadarnhau bod yr elusen mewn angen ariannol, i weld faint o fudd
fyddai’n deillio o’r grant, ac i ystyried unrhyw ffactorau
eraill y mae’r Ymddiriedolwyr o’r farn eu bod yn bwysig.
Fel rhan o’r broses hon, gall yr Ymddiriedolwyr ofyn am
fwy o wybodaeth ac, os byddai hynny’n ddichonol, bydd un
o’r Ymddiriedolwyr neu’r gweinyddwr yn cyfarfod â
chynrychiolwr o’r elusen.
Os bydd yr Ymddiriedolwyr yn penderfynu bod grant yn briodol,
yna byddant yn ystyried y swm, ac yn penderfynu a fydd gofyn,
er enghraifft, i’r elusen sy’n derbyn y grant gyfrannu
rhywfaint at gost y gweithgaredd arfaethedig. Mae’r Ymddiriedolaeth
yn arbennig o awyddus i chwarae rhan catalydd, trwy arian cyfatebol.
Os dyfernir grant, bydd yr Ymddiriedolwyr yn gofyn am adborth
oddi wrth yr elusen sy’n derbyn y grant ynghylch sut y defnyddiwyd
yr arian, a nifer y bobl a gafodd fudd o’r grant a’u
hymateb.
FFURFLEN GAIS AM GRANT
|