HAFAN CEFNDIR GWEITHGAREDDAU PWY RYDYM NI'N EU HELPU GRANTIAU CYSYLLTU Â NI

GRANTIAU YMDDIRIEDOLAETH BODFACH 2010

Gwarchod Hen Adeiladau
IRONBRIDGE, SWYDD AMWYTHIG (Mehefin 2010) I ariannu gweithdai addysgol ysbrydoledig.
YMDDIRIEDOLAETH EGLWYSI HANESYDDOL SWYDD NOTTINGHAM (NHCT), NOTTINGHAM (Mehefin 2010) Grant tuag at warchod eglwysi o ddiddordeb hanesyddol yn Swydd Nottingham.
ADNODD THEATR, ESSEX (Mehefin 2010) Grant i helpu i ailwampio adeilad yr ysgol o oes Fictoria sy'n cynnig cyfle unigryw i ddod â phobl anabl at ei gilydd, yn ogystal â phlant, pobl ifanc ac oedolion eraill sydd dan anfantais gymdeithasol, addysgol ac economaidd, a'r gymuned ehangach, i gymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgareddau dysgu wedi'u seilio ar y celfyddydau, a phrofi rhagoriaeth yn y maes hwn.
CAER AC AMGUEDDFA BAE'R CAPEL, SIR BENFRO (Mehefin 2010) Grant tuag at adfer a gwarchod y Gaer.
EGLWYS MEADOWSIDE ST PAUL, DUNDEE (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu ag atgyweirio meindwr yr eglwys.
APÊL EGLWYS YR HOLL SAINT DWYRAIN PENNARD, GWLAD YR HAF (Mehefin 2010) Grant tuag at ailosod plwm ar do cangell y de a'r clochdwr.
Helpu Pobl Ifanc
WHIZZ-KIDZ, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant ar gyfer offer symudedd wedi'u haddasu i'r unigolyn, hyfforddiant sgiliau cadair olwyn, cyngor a hyfforddiant sgiliau bywyd i roi'r rhyddid a'r annibyniaeth i blant a phobl ifanc anabl fwynhau plentyndod egnïol yn y cartref, yn yr ysgol ac wrth chwarae.
CYMORTH CŴN, SHEFFIELD (Mehefin 2010) Grant i gefnogi hyfforddi cŵn i fod yn gynorthwywyr effeithlon a diogel i blant ag epilepsi, awtistiaeth ac anableddau corfforol.
CANOLFANNAU CYNGOR A GWYBODAETH DWYRAIN BRYSTE, BRYSTE (Mehefin 2010) Cefnogi "Rhaglen Amgylchedd Gwaith" i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy'n gwneud NVQ 1, 2 a 3 mewn Astudiaethau Busnes/Gweinyddiaeth.
HARDWICK IN PARTNERSHIP LTD, STOCKTON-ON-TEES (Mehefin 2010) I helpu i ariannu gweithiwr ieuenctid amser llawn a fydd yn cydlynu gweithdai a gweithgareddau ar stad dai sy'n gymdeithasol amddifadus.
Y SALT CELLAR, OLDHAM (Mehefin 2010) Grant i helpu i ddarparu cyfrifiaduron ym Mhrosiect Ieuenctid y Salt Cellar.
GWEITHDY THEATR ATHERSTONE, SWYDD WARWIG (Mehefin 2010) Grant tuag at osod ardal platfform uchel ar gyfer y gweithdai a'r cynyrchiadau, i'w ddefnyddio fel offeryn addysgol i hybu twf cymdeithasol, corfforol, deallusol ac emosiynol.
CLWB BECHGYN COMIN CLAPTON, LLUNDAIN (Mehefin 2008) Cronfeydd ar gyfer helmedau diogelwch mewn clwb seiclo i ddechreuwyr o'r enw "Start Pedalling" ar gyfer plant rhwng 5 ac 8 oed.
CYMDEITHAS YSGOL GARTREF HERITAGE PARK, SHEFFIELD (Mehefin 2008) Grant tuag at osod ardal platfform uchel ar gyfer y gweithdai a'r cynyrchiadau, i'w ddefnyddio fel offeryn addysgol i hybu twf cymdeithasol, corfforol, deallusol ac emosiynol.
Y STONEHOUSE GANG, BIRMINGHAM (Mehefin 2010) I ariannu unigolyn ifanc i fynd ar gwrs preswyl chwaraeon dŵr awyr agored yn Brixham.
TWINKLE HOUSE, SWYDD GAERHIRFRYN (Mehefin 2010) Grant tuag at ddarparu cyfleuster amlsynnwyr a sesiynau cymorth dwys un-i-un ar gyfer plant ag anawsterau â'u synhwyrau ac anawsterau dysgu.
IEUENCTID POSITIF DROS Y GYMUNED, LLUNDAIN (Mehefin 2010) I helpu i ariannu ymweliad gan y fferm symudol ar gyfer 200 o blant dan anfantais rhwng 3 ac 11 oed yn ystod gwyliau'r ysgol.
EUREKA! AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y PLANT, HALIFAX (Mehefin 2010) Grant i helpu â chostau rhedeg rhaglen modelu sbwriel sy'n annog teuluoedd i ddefnyddio'u sbwriel eu hunain i greu cerfluniau mawr.
TEULUOEDD ARBENNIG RYEDALE, SWYDD GAEREFROG (Mehefin 2010) Cronfeydd tuag at ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 23 oed.
YMDDIRIEDOLAETH HWYLIO ENTERPRISE, BIRMINGHAM (Mehefin 2010) Grant i helpu i anfon 72 o bobl ifanc a'u harweinwyr ar brofiad hwylio'r Ymddiriedolaeth Llongau Tal a mordeithiau dysgu ar arfordir deheuol y DU.
SEFYDLIAD IECHYD GWLEDIG, CYMRU (Mehefin 2010) I ariannu prosiect a fydd yn ymgysylltu'n fwy effeithiol â 6ed dosbarth ysgolion lleol ledled Powys i godi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o yrfaoedd proffesiynol ym maes gofal iechyd sydd ar agor i bobl ifanc. Digwyddiad undydd blynyddol fydd hwn, lle bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfarfod â gweithwyr meddygol proffesiynol a rhoi cynnig ar waith ymarferol eu hunain.
GRŴP SGOWTIAID 1af SAIN FFAGAN ABERDÂR, CYMRU (Mehefin 2010) I helpu â phrynu cadeiriau newydd ar gyfer neuadd y sgowtiaid sydd newydd ei hailwampio.
TRANSFORM, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Cronfeydd tuag at gynhyrchu a dosbarthu copïau o ffilm a wnaed sy'n dwyn sylw at rai o'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n byw yng nghanol dinasoedd.
CADETIAID MÔR, CAINT (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu â chostau adeiladu ar 2 erw o dir sydd wedi'i gaffael ar lan yr afon, i gynnal dosbarthiadau ac ati ar gyfer y Cadetiaid Môr.
YMDDIRIEDOLAETH MORNING, CAINT (Mehefin 2010) Grant i'w gwneud yn haws cyrraedd mwy o grwpiau o unigolion nad ydyn nhw'n cael digon o gymorth.
Gofal Yr Henoed
VISTA, CAERLŶR (Mehefin 2010) Cronfeydd tuag at raglen o weithgareddau cymdeithasol, hamdden ac adloniant ar gyfer pobl hŷn â nam ar eu golwg sy'n byw yng Nghaerlŷr.
EZRA U'MARPEH, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant tuag at offer meddygol nad ydyn nhw ar gael dan y GIG, i'w benthyca am ddim, ac ystafelloedd seibiant ar gyfer perthnasau cleifion.
RHWYDWAITH CYMUNEDOL (Mehefin 2010) Grant tuag at gysylltu pobl ynysig ac agored i niwed yng Nghymru â chyngherddau carolau Nadolig.
Mannau Gwyrdd A Pharciau Cyhoeddus
BYWYD PLANHIGOL, WILTSHIRE (Mehefin 2010) Cronfeydd i gefnogi arddangos cadwraeth gynaliadwy, cynyddu gwybodaeth, datblygu polisi ac eirioli dros well cadwraeth planhigion gwyllt.
PARC (ESSEX) (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu i greu gardd profiad synhwyraidd.
RHWYDWAITH CHWARAE RHYDD, BARNET, LLUNDAIN (Mehefin 2010) I helpu i ariannu digwyddiad hyfforddi ar wella mannau cyhoeddus a rennir mewn parciau a mannau gwyrdd i blant hŷn a phobl ifanc eu defnyddio.
Y SUNSHINE CLUB, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant tuag at glwb garddio eco-weithgar, gan ddefnyddio rhandiroedd ac addysgu'r plant am yr amgylchedd ac iechyd.
CHAT (DEWISIADAU YNGLŶN AG IECHYD AR GYFER PAWB YN EU HARDDEGAU), SWYDD NOTTINGHAM (Mehefin 2010) Grant tuag at atgyweirio twnnel polythen ar gyfer y rhandir a ddefnyddir mewn prosiect lle mae pobl ifanc yn tyfu cynnyrch organig, yn dysgu sut i goginio prydau gan ddefnyddio cynnyrch organig ac yn rhoi'r gweddill i'r henoed yn eu cymuned.
CRISIS, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Cronfeydd i gefnogi'r Skylight Garden Group, sef prosiect garddio ar gyfer pobl ddigartref/pobl y mae lle maen nhw'n byw dan fygythiad.
PROGRESSIVE FARMING TRUST LIMITED, BERKSHIRE (Mehefin 2010) Cronfeydd i hwyluso ymweliadau â'r Ganolfan Ymchwil Organig ar gyfer Ysgolion Cynradd, Uwchradd a Cholegau, a thuag at greu gardd addysgol sy'n cynnwys technegau cylchdroi cnydau gydag ardal compostio a chadwraeth dŵr, ardal bioamrywiaeth ac ati, a nifer o welyau llysiau uchel ar gyfer gweithgareddau ymarferol.
SEFYDLIAD Y GYNGHRAIR CEFN GWLAD, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant tuag at barhau i addysgu'r cyhoedd mewn pynciau sy'n gysylltiedig â chefn gwlad a'i gadwraeth, ei warchodaeth a mwynhad ohono trwy fentrau fel Pysgota i Ysgolion a Hebogyddiaeth i Ysgolion.
Tai Fforddiadwy
Grantiau Cymunedol Eraill Y Tu Hwnt I Bum Maes Craidd Yr Ymddiriedolaeth
CARTREF YSBYTY'R FRENHINES ALEXANDRA, GORLLEWIN SUSSEX (Mehefin 2010) Grant i Raglen Gofal Ffisiotherapi ar gyfer ailsefydlu cyn-filwyr gwrywaidd a benywaidd.
Y GANOLFAN CYFIAWNDER CYMDEITHASOL, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu i ddwyn sylw at waith sefydliadau gwirfoddol ac elusennau bach hynod wahanol ac unigryw sy'n darparu gwasanaethau lles yn rhannau mwyaf toredig Cymdeithas Prydain.
CANWYR CLYCHAU LLAW TRE'R LLAI, CYMRU (Mehefin 2010) Grant i helpu i dalu am waith i ddod â 88 o glychau i safon canu dda - tiwnio ac atgyweirio.
CANOLFAN GYMUNEDOL BRANDWOOD, BIRMINGHAM (Mehefin 2010) Grant i helpu i gefnogi grŵp calon a strôc.
CYMDEITHAS GENEDLAETHOL AWTISTIAETH, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant ar gyfer y cynllun cyfeillio i gefnogi rhieni, teuluoedd a phobl ar y sbectrwm awtistig.

Grantiau Ymddiriedolaeth Bodfach 2007-2009 >>