GRANTIAU YMDDIRIEDOLAETH BODFACH 2007-2009
|
|
Gwarchod Hen Adeiladau |
| • |
SAVE BRITAIN'S HERITAGE Cefnogaeth barhaus ar gyfer gwaith SAVE i warchod ein treftadaeth adeiledig. |
| • |
YMDDIRIEDOLAETH Y TABERNACL MACHYNLLETH, POWYS (Hydref 2007 a Chwefror 2009) Cronfeydd ar gyfer trosi'r Hen Danerdy yn oriel celf a cherflunwaith. |
| • |
WYRCWS LLANFYLLIN, POWYS (Chwefror a Medi 2008 a Mawrth 2009) Grantiau i helpu i ariannu tîm cyllid y Wyrcws, sef prosiect adnewyddu cymunedol cyffrous. Cronfeydd i sefydlu Oriel y Wyrcws er mwyn darparu lle i arlunwyr a dylunwyr lleol a chenedlaethol arddangos a gwerthu eu gwaith yng Nghanolbarth Cymru. |
| Helpu Pobl Ifanc |
| • |
DYSGU I FYW, CYMRU (Gorffennaf 2009) Grant i gefnogi dyfarniadau'r rhaglen Poster Gwerthoedd ar gyfer disgyblion Cymru. |
| • |
STREATHAM YOUTH AND COMMUNITY TRUST, LLUNDAIN (Gorffennaf 2009) Grant i gefnogi cynllun chwarae prosiect yr haf i'w gynnal 10-21 Awst 2009.
|
| • |
THE FAMILY HAVEN, CAERLOYW (Gorffennaf 2009) Ariannu ar gyfer sesiynau meithrinfa 1:1 i blant ag anghenion ychwanegol y mae angen oedolyn i ryngweithio â nhw'n barhaus i'w galluogi i uniaethu â'u cyfoedion, a Rhaglen Allgymorth sy'n galluogi'r ganolfan i weithio gyda mwy o deuluoedd yn y gymuned.
|
| • |
BARTON TRAINING TRUST, BRYSTE (Gorffennaf 2009) I gefnogi'r digwyddiad blynyddol yn ystod gwyliau'r haf yn Swydd Henffordd ar gyfer plant 'mewn perygl' rhwng 7 ac 11 oed.
|
| • |
RESOURCES FOR AUTISM (Gorffennaf 2009) Ariannu i sicrhau bod gweithgareddau chwarae ar gael i bobl ifanc awtistig yn ystod y gwyliau.
|
| • |
YSGOL UWCHRADD LLANFYLLIN, POWYS (Chwefror 2009) Cronfeydd ar gyfer peiriannau gwnïo newydd i'r Adran Celf.
|
| • |
ACTION FOR KIDS, LLUNDAIN (Tachwedd 2008) Cronfeydd i helpu i ddarparu profiad gwaith a sgiliau chwilio am swydd i bobl anabl, rhwng 14 a 26 oed. |
| • |
THE AMBER TRUST, LLUNDAIN (Tachwedd 2008) Grant i sicrhau bod cerddoriaeth o fewn cyrraedd plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru. |
| • |
GŴYL GERDD LLANFYLLIN, POWYS (Mawrth 2008 a Hydref 2008) I ariannu cyngerdd plant, gweithdai ysgol a dosbarthiadau meistri â'r grŵp Allegri String Quartet, sy'n enwog ledled y byd. |
| • |
YMDDIRIEDOLAETH CERDDORIAETH IEUENCTID GOGLEDD POWYS, POWYS (Mawrth, Awst a Hydref 2008) Noddi'r Cyngerdd Gala ym mis Gorffennaf 2008, cronfeydd ar gyfer taflen wybodaeth ynglŷn â gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth a helpu â chost gwersi cerddoriaeth disgyblion.
|
| • |
SHREWSBURY SCHOOL FOUNDATION, AMWYTHIG (Awst 2008 a Gorffennaf 2009) Rhoddwyd arian i Apêl Bwrsariaeth Michael Charlesworth i sefydlu cronfa i alluogi bechgyn a merched na fyddai fel arall yn gallu mwynhau buddion addysg yn ysgol Amwythig oherwydd eu sefyllfa ariannol.
|
| • |
PEACH, BERKSHIRE (Gorffennaf 2008 ) Rhodd i hybu ymyrraeth ymddygiad gynnar ar gyfer plant ifanc ag awtistiaeth.
|
| • |
REKINDLE, POWYS (Medi 2007) Cronfeydd i hybu cynhwysiant cymdeithasol pobl ifanc â salwch meddwl trwy sicrhau bod gweithgareddau cymunedol lleol ar gael iddyn nhw.
|
| • |
YSGOL GYNRADD YR EGLWYS YNG NGHYMRU LLANSANTFFRAID, POWYS (Medi 2007) Cronfeydd i gefnogi gweithgareddau'r ysgol.
|
| Gofal Yr Henoed |
| • |
CYNHALWYR CYMRU, CAERDYDD (Gorffennaf 2009) Grant i helpu i ddatblygu rhaglen hyfforddi a chymryd rhan i gynhalwyr.
|
| • |
YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL CONCERTINA, CYMRU A LLOEGR (Chwefror 2008) Cymhorthdal tuag at gostau gweinyddu a noddi Cyngerdd Pen-blwydd yn 10 Oed yn Chelsea Old Town Hall, Llundain fis Tachwedd 2008 i godi arian ar gyfer darparu cerddoriaeth ac adloniant arall Concertina ar gyfer yr henoed.
|
| • |
CYMDEITHAS ALZHEIMER, POWYS (Rhagfyr 2007) Rhodd i gefnogi gwaith hanfodol y Gymdeithas wrth gynorthwyo pobl sy'n dioddef o glefyd Alzheimer.
|
| Mannau Gwyrdd A Pharciau Cyhoeddus |
| • |
CYNGOR TREF LLANFYLLIN, POWYS (Gorffennaf 2009) Cyfrannu at brosiect i greu ardal natur ger afon Cain yn Llanfyllin.
|
| • |
MEYSYDD CHWARAE (FIT), CYMRU a LLOEGR (Medi 2007) Grant i gefnogi gwaith hanfodol FIT i achub meysydd chwarae a mannau gwyrdd.
|
| Tai Fforddiadwy |
| • |
YMDDIRIEDOLAETH TIR CYMUNEDOL DYFFRYN GRWYNE, POWYS (Chwefror 2009) Cronfeydd ar gyfer comisiynu arolwg dŵr a charthion ar gyfer prosiect tai fforddiadwy.
|
| • |
YMDDIRIEDOLAETH TIR CYMUNEDOL LLANFYLLIN, POWYS (Chwefror 2009) Ar gyfer cyfieithu ac argraffu taflenni, llythyrau a thystysgrifau cyfranddaliadau ar gyfer lansio prosiect tai fforddiadwy YTC yn y dref.
|
| Grantiau Cymunedol Eraill Y Tu Hwnt I Bum Maes Craidd Yr Ymddiriedolaeth |
| • |
CELF O GWMPAS, POWYS (Chwefror 2009) Grant i helpu cynnal nifer fach iawn o staff craidd rhan-amser sy'n gweithio ar geisiadau am arian ar gyfer prosiectau celf o ansawdd uchel, yn bennaf ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ledled Powys.
|
| • |
THEATR HELYG BYW, POWYS (Chwefror 2009) I brynu 6 lamp LED i oleuo'r theatr sydd â'r nod o ddefnyddio drama, yn enwedig Shakespeare, er budd y cyhoedd i hybu datblygiad a gwelliant meddyliol, moesol a chorfforol.
|
| • |
EGLWYS SANT MYLLIN, LLANFYLLIN, POWYS (Hydref 2008) Rhodd ar gyfer gwaith yr eglwys blwyf yn y gymuned.
|
| • |
CRONFA LES Y FYDDIN, PRYDAIN FAWR (Mehefin 2008) Cronfeydd i gefnogi milwyr ar wasanaeth, cyn-filwyr a'u teuluoedd pan fo angen, gan gynnwys y rheiny ag anableddau neu salwch meddwl, pobl sy'n ddigartref neu'n ddi-waith, a phobl hŷn.
|
| • |
HELP FOR HEROES, PRYDAIN FAWR (Ionawr 2008) Rhodd i helpu'r rheiny sydd wedi'u hanafu yn ystod y brwydro sydd a wnelo Prydain ag ef ar hyn o bryd.
|
| • |
NEUADD BENTREF HARTFIELD, DWYRAIN SUSSEX (Medi 2007) Grant i gefnogi gweithgareddau'r Neuadd Bentref yn y gymuned.
|
<< Grantiau Ymddiriedolaeth Bodfach 2010
|
     |