GRANTIAU YMDDIRIEDOLAETH BODFACH 2010
|
|
Gwarchod Hen Adeiladau |
| • |
ST JOHNS CHURCH, WAKEFIELD (Awst 2010) Grant i gyfrannu at gost ailddatblygu'r adeilad. |
| • |
IRONBRIDGE, SWYDD AMWYTHIG (Mehefin 2010) I ariannu gweithdai addysgol ysbrydoledig. |
| • |
YMDDIRIEDOLAETH EGLWYSI HANESYDDOL SWYDD NOTTINGHAM (NHCT), NOTTINGHAM (Mehefin 2010) Grant tuag at warchod eglwysi o ddiddordeb hanesyddol yn Swydd Nottingham. |
| • |
ADNODD THEATR, ESSEX (Mehefin 2010) Grant i helpu i ailwampio adeilad yr ysgol o oes Fictoria sy'n cynnig cyfle unigryw i ddod â phobl anabl at ei gilydd, yn ogystal â phlant, pobl ifanc ac oedolion eraill sydd dan anfantais gymdeithasol, addysgol ac economaidd, a'r gymuned ehangach, i gymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgareddau dysgu wedi'u seilio ar y celfyddydau, a phrofi rhagoriaeth yn y maes hwn. |
| • |
CAER AC AMGUEDDFA BAE'R CAPEL, SIR BENFRO (Mehefin 2010) Grant tuag at adfer a gwarchod y Gaer. |
| • |
EGLWYS MEADOWSIDE ST PAUL, DUNDEE (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu ag atgyweirio meindwr yr eglwys. |
| • |
APÊL EGLWYS YR HOLL SAINT DWYRAIN PENNARD, GWLAD YR HAF (Mehefin 2010) Grant tuag at ailosod plwm ar do cangell y de a'r clochdwr. |
| Helpu Pobl Ifanc |
| • |
SHEFFIELD YOUNG CARERS PROJECT, SHEFFIELD (Awst 2010) Grant i gefnogi gweithgareddau seibiant i bobl ifanc rhwng 8 a 21 oed sydd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol am rywun gartref. |
| • |
THE FAMILY HAVEN, CAERLOYW (Awst 2010) Cronfeydd i helpu i leddfu tlodi a thrallod teuluoedd â phlant cyn oed ysgol sydd, oherwydd eu hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd, mewn angen. |
| • |
THE JENNIFER TRUST FOR SPINAL MUSCULAR ATROPHY, STRATFORD-UPON-AVON (Awst 2010) Grant i brynu tri phecyn teganau synhwyraidd arbenigol ar gyfer babanod â math 1 SMA. |
| • |
THE LEGACY RAINBOW HOUSE, SWYDD GAERHIRFRYN (Awst 2010) Cronfeydd tuag at brynu Rotastand Solo sy'n caniatâu symud o un osgo eistedd i un arall â chymorth, ar gyfer y plant hynny nad ydyn nhw'n gorfforol abl i wneud hynny drostyn nhw eu hunain. |
| • |
ACT, BRYSTE (Awst 2010) Grant i gefnogi parhau â'r gwaith i gyflawni'r ansawdd bywyd gorau posibl ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc nad oes disgwyl iddyn nhw fyw yn ddigon hir i ddod yn oedolion. |
| • |
GOFAL CROSSROADS ABERTAWE CASTELL-NEDD PORT TALBOT, ABERTAWE (Awst 2010) Cronfeydd i gefnogi'r prosiect gofalwyr ifanc sy'n darparu gofal seibiant hyblyg o ansawdd i bobl ifanc. |
| • |
DYSLEXIA ACTION, TONBRIDGE (Awst 2010) Grant i helpu oddeutu 100 o bobl ifanc sy'n ymgodymu â dyslecsia. |
| • |
C A N D I, CINDERFORD (Awst 2010) Cronfeydd tuag at barhau â chanolfan galw heibio CANDI ar gyfer pobl ifanc, gan gynnig lle diogel a chynnes i gyfarfod oddi ar y strydoedd a draw oddi wrth drosedd. |
| • |
AMGUEDDFA CYMRU, CAERDYDD (Awst 2010) Cronfeydd i gefnogi prosiect sy'n rhoi'r cyfle i blant ysgol gynradd yng Nghyfnod Allweddol 2 fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o Astudiaeth Genedlaethol Newid yn yr Hinsawdd. |
| • |
1ST CLANFIELD SCOUT GROUP, HAMPSHIRE (Awst 2010) Grant i adfer y cae gweithgareddau yn gyfagos i'r pencadlys sgowtiaid sydd wedi'i ailadeiladu o'r newydd ar ôl ei ddinistrio gan dân a gyneuwyd yn fwriadol yn 2006) |
| • |
WEST MIDLANDS QUAKER PEACE EDUCATION PROJECT (WMQPEP), BIRMINGHAM (Awst 2010) Grant i redeg prosiect Peacemaker mewn Ysgol Gynradd yn Sparkhill, Birmingham â disgyblion blwyddyn 6. |
| • |
THE KIBWORTH BAND, CAERLŶR (Awst 2010) Cronfeydd i gefnogi treuliau pedwar tiwtor. |
| • |
QUEENSBURY SCOUT BAND THE REVOLUTION SHOW CORPS, BRADFORD (Awst 2010) Cronfeydd tuag at gyfres o ddosbarthiadau meistr i ddatblygu ymhellach y rheiny sy'n canu offerynnau pres ac offerynnau taro. |
| • |
OFF THE RECORD, HAMPSHIRE (Awst 2010) Grant i ddarparu gweithdy hyfforddiant a phecyn cymorth creadigol ar gyfer gwirfoddolwyr. Diben hyn yw datblygu sgiliau creadigol i greu modd dieiriau o gyfathrebu er mwyn i blant a phobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd dechrau siarad am brofiadau trawmatig allu datblygu perthynas ddiogel ac ymddiriedus. |
| • |
WHIZZ-KIDZ, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant ar gyfer offer symudedd wedi'u haddasu i'r unigolyn, hyfforddiant sgiliau cadair olwyn, cyngor a hyfforddiant sgiliau bywyd i roi'r rhyddid a'r annibyniaeth i blant a phobl ifanc anabl fwynhau plentyndod egnïol yn y cartref, yn yr ysgol ac wrth chwarae. |
| • |
CYMORTH CŴN, SHEFFIELD (Mehefin 2010) Grant i gefnogi hyfforddi cŵn i fod yn gynorthwywyr effeithlon a diogel i blant ag epilepsi, awtistiaeth ac anableddau corfforol.
|
| • |
CANOLFANNAU CYNGOR A GWYBODAETH DWYRAIN BRYSTE, BRYSTE (Mehefin 2010) Cefnogi "Rhaglen Amgylchedd Gwaith" i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy'n gwneud NVQ 1, 2 a 3 mewn Astudiaethau Busnes/Gweinyddiaeth.
|
| • |
HARDWICK IN PARTNERSHIP LTD, STOCKTON-ON-TEES (Mehefin 2010) I helpu i ariannu gweithiwr ieuenctid amser llawn a fydd yn cydlynu gweithdai a gweithgareddau ar stad dai sy'n gymdeithasol amddifadus.
|
| • |
Y SALT CELLAR, OLDHAM (Mehefin 2010) Grant i helpu i ddarparu cyfrifiaduron ym Mhrosiect Ieuenctid y Salt Cellar.
|
| • |
GWEITHDY THEATR ATHERSTONE, SWYDD WARWIG (Mehefin 2010) Grant tuag at osod ardal platfform uchel ar gyfer y gweithdai a'r cynyrchiadau, i'w ddefnyddio fel offeryn addysgol i hybu twf cymdeithasol, corfforol, deallusol ac emosiynol.
|
| • |
CLWB BECHGYN COMIN CLAPTON, LLUNDAIN (Mehefin 2008) Cronfeydd ar gyfer helmedau diogelwch mewn clwb seiclo i ddechreuwyr o'r enw "Start Pedalling" ar gyfer plant rhwng 5 ac 8 oed. |
| • |
CYMDEITHAS YSGOL GARTREF HERITAGE PARK, SHEFFIELD (Mehefin 2008) Grant tuag at osod ardal platfform uchel ar gyfer y gweithdai a'r cynyrchiadau, i'w ddefnyddio fel offeryn addysgol i hybu twf cymdeithasol, corfforol, deallusol ac emosiynol. |
| • |
Y STONEHOUSE GANG, BIRMINGHAM (Mehefin 2010) I ariannu unigolyn ifanc i fynd ar gwrs preswyl chwaraeon dŵr awyr agored yn Brixham.
|
| • |
TWINKLE HOUSE, SWYDD GAERHIRFRYN (Mehefin 2010) Grant tuag at ddarparu cyfleuster amlsynnwyr a sesiynau cymorth dwys un-i-un ar gyfer plant ag anawsterau â'u synhwyrau ac anawsterau dysgu.
|
| • |
IEUENCTID POSITIF DROS Y GYMUNED, LLUNDAIN (Mehefin 2010) I helpu i ariannu ymweliad gan y fferm symudol ar gyfer 200 o blant dan anfantais rhwng 3 ac 11 oed yn ystod gwyliau'r ysgol.
|
| • |
EUREKA! AMGUEDDFA GENEDLAETHOL Y PLANT, HALIFAX (Mehefin 2010) Grant i helpu â chostau rhedeg rhaglen modelu sbwriel sy'n annog teuluoedd i ddefnyddio'u sbwriel eu hunain i greu cerfluniau mawr.
|
| • |
TEULUOEDD ARBENNIG RYEDALE, SWYDD GAEREFROG (Mehefin 2010) Cronfeydd tuag at ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 23 oed.
|
| • |
YMDDIRIEDOLAETH HWYLIO ENTERPRISE, BIRMINGHAM (Mehefin 2010) Grant i helpu i anfon 72 o bobl ifanc a'u harweinwyr ar brofiad hwylio'r Ymddiriedolaeth Llongau Tal a mordeithiau dysgu ar arfordir deheuol y DU.
|
| • |
SEFYDLIAD IECHYD GWLEDIG, CYMRU (Mehefin 2010) I ariannu prosiect a fydd yn ymgysylltu'n fwy effeithiol â 6ed dosbarth ysgolion lleol ledled Powys i godi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o yrfaoedd proffesiynol ym maes gofal iechyd sydd ar agor i bobl ifanc. Digwyddiad undydd blynyddol fydd hwn, lle bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfarfod â gweithwyr meddygol proffesiynol a rhoi cynnig ar waith ymarferol eu hunain.
|
| • |
GRŴP SGOWTIAID 1af SAIN FFAGAN ABERDÂR, CYMRU (Mehefin 2010) I helpu â phrynu cadeiriau newydd ar gyfer neuadd y sgowtiaid sydd newydd ei hailwampio.
|
| • |
TRANSFORM, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Cronfeydd tuag at gynhyrchu a dosbarthu copïau o ffilm a wnaed sy'n dwyn sylw at rai o'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n byw yng nghanol dinasoedd.
|
| • |
CADETIAID MÔR, CAINT (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu â chostau adeiladu ar 2 erw o dir sydd wedi'i gaffael ar lan yr afon, i gynnal dosbarthiadau ac ati ar gyfer y Cadetiaid Môr.
|
| • |
YMDDIRIEDOLAETH MORNING, CAINT (Mehefin 2010) Grant i'w gwneud yn haws cyrraedd mwy o grwpiau o unigolion nad ydyn nhw'n cael digon o gymorth.
|
| Gofal Yr Henoed |
| • |
CAPEL MC PENIEL, LLANDDONA (Awst 2010) Grant i helpu â chostau Cymanfa Ganu a Gwasanaeth Carolau i oedolion hŷn y gymuned a phlant ifanc yn y pentref.
|
| • |
WEST NORFOLK BEFRIENDING, NORFOLK (Awst 2010) Grant i helpu â chodi arian ar gyfer digwyddiad blynyddol i'r holl wirfoddolwyr a chleientiaid.
|
| • |
CORNWALL BLIND ASSOCIATION, CERNYW (Awst 2010) Cronfeydd i ymestyn y prosiect cyfeillio dros y ffôn i bobl hŷn ac ynysig yng Nghernyw sydd wedi colli eu golwg.
|
| • |
VISTA, CAERLŶR (Mehefin 2010) Cronfeydd tuag at raglen o weithgareddau cymdeithasol, hamdden ac adloniant ar gyfer pobl hŷn â nam ar eu golwg sy'n byw yng Nghaerlŷr.
|
| • |
EZRA U'MARPEH, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant tuag at offer meddygol nad ydyn nhw ar gael dan y GIG, i'w benthyca am ddim, ac ystafelloedd seibiant ar gyfer perthnasau cleifion.
|
| • |
RHWYDWAITH CYMUNEDOL (Mehefin 2010) Grant tuag at gysylltu pobl ynysig ac agored i niwed yng Nghymru â chyngherddau carolau Nadolig.
|
| Mannau Gwyrdd A Pharciau Cyhoeddus |
| • |
NATIONAL WILDFLOWER CENTRE, LERPWL (Awst 2010) Grant i greu ardal gardd synhwyraidd, â thema'n ymwneud â glšynnod byw, gan ddarparu arddangosfeydd cyffyrddadwy a phlanhigion sy'n denu glšynnod byw a gwyfynod.
|
| • |
BYWYD PLANHIGOL, WILTSHIRE (Mehefin 2010) Cronfeydd i gefnogi arddangos cadwraeth gynaliadwy, cynyddu gwybodaeth, datblygu polisi ac eirioli dros well cadwraeth planhigion gwyllt.
|
| • |
PARC (ESSEX) (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu i greu gardd profiad synhwyraidd. |
| • |
RHWYDWAITH CHWARAE RHYDD, BARNET, LLUNDAIN (Mehefin 2010) I helpu i ariannu digwyddiad hyfforddi ar wella mannau cyhoeddus a rennir mewn parciau a mannau gwyrdd i blant hŷn a phobl ifanc eu defnyddio. |
| • |
Y SUNSHINE CLUB, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant tuag at glwb garddio eco-weithgar, gan ddefnyddio rhandiroedd ac addysgu'r plant am yr amgylchedd ac iechyd. |
| • |
CHAT (DEWISIADAU YNGLŶN AG IECHYD AR GYFER PAWB YN EU HARDDEGAU), SWYDD NOTTINGHAM (Mehefin 2010) Grant tuag at atgyweirio twnnel polythen ar gyfer y rhandir a ddefnyddir mewn prosiect lle mae pobl ifanc yn tyfu cynnyrch organig, yn dysgu sut i goginio prydau gan ddefnyddio cynnyrch organig ac yn rhoi'r gweddill i'r henoed yn eu cymuned. |
| • |
CRISIS, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Cronfeydd i gefnogi'r Skylight Garden Group, sef prosiect garddio ar gyfer pobl ddigartref/pobl y mae lle maen nhw'n byw dan fygythiad. |
| • |
PROGRESSIVE FARMING TRUST LIMITED, BERKSHIRE (Mehefin 2010) Cronfeydd i hwyluso ymweliadau â'r Ganolfan Ymchwil Organig ar gyfer Ysgolion Cynradd, Uwchradd a Cholegau, a thuag at greu gardd addysgol sy'n cynnwys technegau cylchdroi cnydau gydag ardal compostio a chadwraeth dŵr, ardal bioamrywiaeth ac ati, a nifer o welyau llysiau uchel ar gyfer gweithgareddau ymarferol. |
| • |
SEFYDLIAD Y GYNGHRAIR CEFN GWLAD, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant tuag at barhau i addysgu'r cyhoedd mewn pynciau sy'n gysylltiedig â chefn gwlad a'i gadwraeth, ei warchodaeth a mwynhad ohono trwy fentrau fel Pysgota i Ysgolion a Hebogyddiaeth i Ysgolion. |
| Tai Fforddiadwy |
| Grantiau Cymunedol Eraill Y Tu Hwnt I Bum Maes Craidd Yr Ymddiriedolaeth |
| • |
ST JOHN THE BAPTIST, INSTOW (Awst 2010) Grant tuag at ymestyn capel nad yw'n cael ei ddefnyddio rhyw lawer i ddarparu cyflenwad dŵr, tŷ bach, cegin fach a storfa er mwyn darparu canolfan i'r gymuned a'r eglwys ei defnyddio.
|
| • |
THE DOROTHY PARKER CENTRE LTD, GORLLEWIN CANOLDIR LLOEGR (Awst 2010) Grant i helpu'r ganolfan gymunedol, lle cynhelir amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pobl o bob oedran, i barhau i weithredu.
|
| • |
THE MALT CROSS TRUST COMPANY (Awst 2010) Darparu lle diogel 24 awr y dydd yn adeilad y Malt Cross ar gyfer pobl agored i niwed.
|
| • |
ROTHERFIELD ST MARTIN, EAST SUSSEX (Awst 2010) Grant tuag at redeg dosbarthiadau ymarfer, er mwyn eu hymestyn i gynnwys pobl â symudedd gwael iawn a rhai mewn cadeiriau olwyn.
|
| • |
CARTREF YSBYTY'R FRENHINES ALEXANDRA, GORLLEWIN SUSSEX (Mehefin 2010) Grant i Raglen Gofal Ffisiotherapi ar gyfer ailsefydlu cyn-filwyr gwrywaidd a benywaidd.
|
| • |
Y GANOLFAN CYFIAWNDER CYMDEITHASOL, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Cronfeydd i helpu i ddwyn sylw at waith sefydliadau gwirfoddol ac elusennau bach hynod wahanol ac unigryw sy'n darparu gwasanaethau lles yn rhannau mwyaf toredig Cymdeithas Prydain.
|
| • |
CANWYR CLYCHAU LLAW TRE'R LLAI, CYMRU (Mehefin 2010) Grant i helpu i dalu am waith i ddod â 88 o glychau i safon canu dda - tiwnio ac atgyweirio.
|
| • |
CANOLFAN GYMUNEDOL BRANDWOOD, BIRMINGHAM (Mehefin 2010) Grant i helpu i gefnogi grŵp calon a strôc.
|
| • |
CYMDEITHAS GENEDLAETHOL AWTISTIAETH, LLUNDAIN (Mehefin 2010) Grant ar gyfer y cynllun cyfeillio i gefnogi rhieni, teuluoedd a phobl ar y sbectrwm awtistig.
|
Grantiau Ymddiriedolaeth Bodfach 2007-2009 >>
|
     |